Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 15 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 14:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans William Graham Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mair Davies, Cadeirydd, Royal Pharmaceutical Society Marc Donovan, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Paul Gimson, Royal Pharmaceutical Society Russell Goodway, Prif Weithredwr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Jason Harding, Diabetes UK Dr Ian Millington, Cymdeithas Feddygol Prydain Dr Aled Roberts, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain Dr Mark Temple, Cymdeithas Feddygol Prydain Dai Williams, Diabetes UK Dr Meurig Williams,, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Vaughan Gething a Darren Millar. Nid oedd dirprwyon.
2. Ymchwiliad i'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol - Tystiolaeth lafar
2a. Diabetes UK Cymru
2.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
2b. Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain, a Chymdeithas Feddygol Prydain
2.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.
2.3 Cytunodd Dr Temple i roi nodyn i’r Pwyllgor ar y gostyngiad yn nifer y meddygon iechyd cyhoeddus yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
2c. Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru
2.4 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau oddi wrth Aelodau’r Pwyllgor.
2.5 Cytunodd Mr Gimson i rannu papur â’r Pwyllgor ar ganlyniadau fferyllwyr yn darparu addysg strwythuredig i gleifion diabetes.
3. Papurau i'w nodi
Blaenraglen Waith - Tachwedd i Ragfyr 2012
3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am amser yn gynnar yn 2013 i gwrdd â'r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, Deoniaeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill i barhau â'i ystyriaeth o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau y byrddau iechyd.
Gohebiaeth gan Mick Antoniw AC ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Dywedodd Mick Antoniw wrth y Pwyllgor na fyddai'n bresennol yn y sesiynau lle fydd y Pwyllgor yn trafod y Bil, gan mai ef yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y Bil.
Gohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ ar Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio)
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 21 Tachwedd
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5. Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl Hŷn - Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd i drefnu sesiwn i’w drafod eto ar 21 Tachwedd.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.